Rhestr wirio

 

Mae’r dudalen hon yn rhoi canllawiau i’r Rhestru Gwirio ac Asesu.

Dylid nodi  bod yr erthygl ar Asesu wedi ymddangos yn Rhifyn 2 o Gylch-lythyr Dyslecsia Cymru (Gaeaf 2005).


Ni fydd gan y rhan fwyaf o athrawon fodd i gael gafael ar weithdrefnau asesu. Ond, mae rhestri gwirio ar gael a all gynorthwyo'r gwaith o adnabod y plant hynny sydd ag anawsterau dysgu penodol. Er nad yw'r rhain yn rhoi gwybodaeth am yr anawsterau sylfaenol penodol gallant helpu i gadarnhau pryderon yr athrawon a'r rhieni.

 

Isod ceir rhestr wirio sy'n gwahanu dau fath o anawsterau; y rhai sy'n gysylltiedig â llythrennedd ar y naill law ac am ymddygiad ar y llall.

 

Dyma rai o'r dangosyddion mwyaf cyffredin a ddefnyddir i adnabod yr unigolyn dyslecsig. Ond, cofiwch, nad yw cael anhawster â rhai ohonynt yn golygu bod plentyn yn ddyslecsig

  • Anawsterau'n gysylltiedig â llythrennedd
  • yn cael darllen a sillafu'n arbennig o anodd
  • yn gosod llythrennau neu rifau o chwith
  • yn cael anhawster wrth ddysgu a chofio tablau a'r wyddor
  • yn hepgor llythrennau o eiriau neu'n eu gosod yn y drefn anghywir
  • yn cymryd mwy o amser na'r cyfartaledd wrth ysgrifennu
  • yn drysu wrth ddefnyddio geiriau hir megis cychwynnol, athronyddol
  • yn cael hwiangerddi'n anodd

Dangosyddion ymddygiad

  • yn ei chael hi'n anodd i wahaniaethu rhwng dde a chwith, trefn dyddiau'r wythnos, misoedd y flwyddyn, ayyb
  • synnwyr cyfeiriad gwan
  • diffyg hunanhyder a hunanddelwedd druenus
  • yn cael ei gyhuddo o beidio â gwrando neu fethu â chymryd sylw
  • anhawster â sgiliau motor e.e. dal, cicio neu daflu pêl; hopian a/neu sgipio
  • anhawster wrth guro rhythm syml

Yn eich synnu chi oherwydd ym mhob ffordd arall y mae ef/hi'n ddeallus ac yn effro