Rhestr wirio

 

Mae’r dudalen hon yn rhoi canllawiau i’r Rhestru Gwirio ac Asesu.

 

Dylid nodi  bod yr erthygl ar Asesu wedi ymddangos yn Rhifyn 2 o Gylch-lythyr  Prosiect Dyslecsia Cymru (Gaeaf 2005).


Ni fydd gan y rhan fwyaf o athrawon fodd i gael gafael ar weithdrefnau asesu. Ond, mae rhestri gwirio ar gael a all gynorthwyo'r gwaith o adnabod y plant hynny sydd ag anawsterau dysgu penodol. Er nad yw'r rhain yn rhoi gwybodaeth am yr anawsterau sylfaenol penodol gallant helpu i gadarnhau pryderon yr athrawon a'r rhieni.

 

Isod ceir rhestr wirio sy'n gwahanu dau fath o anawsterau; y rhai sy'n gysylltiedig â llythrennedd ar y naill law ac am ymddygiad ar y llall. Dyma rai o'r dangosyddion mwyaf cyffredin a ddefnyddir i adnabod yr unigolyn dyslecsig. Ond, cofiwch, nad yw cael anhawster â rhai ohonynt yn golygu bod plentyn yn ddyslecsig

 

*        Anawsterau'n gysylltiedig â llythrennedd

*        yn cael darllen a sillafu'n arbennig o anodd

*        yn gosod llythrennau neu rifau o chwith

*        yn cael anhawster wrth ddysgu a chofio tablau a'r wyddor

*        yn hepgor llythrennau o eiriau neu'n eu gosod yn y drefn anghywir

*        yn cymryd mwy o amser na'r cyfartaledd wrth ysgrifennu

*        yn drysu wrth ddefnyddio geiriau hir megis cychwynnol, athronyddol

*        yn cael hwiangerddi'n anodd

 

Dangosyddion ymddygiad

 

*        yn ei chael hi'n anodd i wahaniaethu rhwng dde a chwith, trefn dyddiau'r wythnos, misoedd y flwyddyn, ayyb

*        synnwyr cyfeiriad gwan

*        diffyg hunanhyder a hunanddelwedd druenus

*        yn cael ei gyhuddo o beidio â gwrando neu fethu â chymryd sylw

*        anhawster â sgiliau motor e.e. dal, cicio neu daflu pêl; hopian a/neu sgipio

*        anhawster wrth guro rhythm syml

 

Yn eich synnu chi oherwydd ym mhob ffordd arall y mae ef/hi'n ddeallus ac yn effro