Cynllun Iaith Gymraeg
Derbyniodd y Cynllun gymeradwyaeth
Bwrdd Yr Iaith Gymraeg
Dyddiad:Mai 10ed 2007

 

1. Cyflwyniad

 

1.1       Mae Prosiect Dyslecsia Cymru (“PDC”) wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal ei fusnes cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Cynllun hwn yn nodi sut y bydd PDC yn defnyddio’r egwyddor wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru.

 

1.2      Noda’r Cynllun y camau angenrheidiol i weithredu’r egwyddorion hyn i’r graddau y maent yn briodol ac ymarferol i’r mudiad.

 

2. Prosiect Dyslecsia Cymru

 

2.1       Amcan PDC

 

2.2              Mae PDC yn darparu gwasanaeth ar draws pob un o awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys sefydlu/creu adnoddau, cefnogi rhieni, unigolion dyslecsig, ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes Dyslecsia.  Gall yr adnoddau  gynnwys meddalwedd, adnoddau ysgrifenedig, profion sgrinio pwrpasol, a threfnu cynadleddau ar agweddau o Dyslecsia.

 

 2.3      Bwriadwyd y Cynllun hwn yn benodol i gynorthwyo PDC i gyflawni ei genhadaeth trwy sicrhau y defnyddir yn effeithiol y ddwy brif iaith – Cymraeg a Saesneg – a ddefnyddir gan ein defnyddwyr, ein staff, ein gwirfoddolwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.

 

 

3. Darparu Gwasanaethau

 

3.1 Deunyddiau Ysgrifennu

 

a)      Bydd enw PDC, y cyfeiriad a gwybodaeth berthnasol ar bapur ysgrifennu, taflenni gwybodaeth, deunydd apêl a datganiadau cyhoeddus yn ddwyieithog.

b)     Bydd nodyn ar bapur ysgrifennu yn cynnwys yr isod:

 

Croesawir gohebiaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg

Correspondence welcomed through the medium of Welsh or English

 

c)      Bydd penawdau llythyrau PDC, ei slipiau cyfarch, cardiau busnes, bathodynnau adnabod ac eitemau tebyg yn ddwyieithog.

 

d)     Bydd ffurflenni a ddefnyddir yn fewnol ac yn allanol gan y mudiad ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Bwriada PDC gynhyrchu’r rhan fwyaf o’i ffurflenni yn ddwyieithog: fodd bynnag, lle na fyddai hyn yn ymarferol, bydau ffurfiau Cymraeg a Saesneg ar gael a’r ddwy ffurf yr un mor hygyrch, a bydd pob un â neges ddwyieithog yn nodi bod yr iaith arall ar gael.

 

 

3.2 Cyhoeddiadau

 

a)     Cyhoeddir unrhyw gyhoeddiadau newydd a gynhyrchir gan PDC i’w defnyddio ledled Cymru yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael yn arferol fel un cyhoeddiad dwyieithog.  Lle nad yw hyn yn ymarferol, bydd y fersiynau Cymraeg a Saesneg yr un mor hawdd eu cael.  Bydd ein cylchlythyr chwarterol yn cynnwys erthyglau yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn dibynnu ar iaith yr ysgrifennwr.

 

b)     Pan gynhyrchir cyhoeddiadau ar y cyd â mudiadau/asiantaethau eraill, cyhoeddir pryd bynnag y gellir, y fersiwn Gymraeg a’r un Saesneg ar y pryd.

 

3.3 Cyhoeddusrwydd

 

a)Bydd PDC yn rhyddhau gwybodaeth i’r cyfryngau a’r cyhoedd yn ddwyieithog trwy gyfrwng datganiadau, a chynadleddau, cyfweliadau a chylchlythyron i’r wasg.  Caiff y fersiynau Cymraeg a Saesneg eu cyhoeddi ar yr un pryd, eu dosbarthu gyda’i gilydd a bod yr un mor hygyrch â’i gilydd.

 

b)            Caiff ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd a chyhoeddiadau cynadleddau a digwyddiadau eu cyfathrebu yn ddwyieithog a byddant yn cydymffurfio gyda gofynion y Cynllun hwn.

 

c)             Bydd cynllun Iaith Gymraeg PDC a’i wasanaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei gyhoeddi’n barhaol drwy ddosbarthu copïau o’r Cynllun, taflenni gwybodaeth sy’n cael eu dosbarthu drwy Gymru, posteri hysbysebu a gwefan PDC.

 

3.4 Cyfarfodydd a Chynadleddau

 

Bydd PDC yn annog y rheiny sy’n mynychu cyfarfodydd a chynadleddau PDC i nodi eu dewis ar gyfer cyfathrebu er mwyn galluogi PDC i benderfynu a oes angen cyfleusterau cyfieithu.

 

Mi fyddwn yn cynnig dewis iaith wrth gynnal cyfarfodydd cyhoeddus.  Mi fydd asesiad o’r angen am gyfieithu yn cael ei gwblhau ar gyfer unrhyw gyfarfod ar raddfa fawr, ac mi fydd cyfleusterau yn cael eu darparu yn seiliedig ar yr asesiad.  Darperir cyfleusterau cyfieithu ar y pryd  os bydd yr asesiad yn amlygu angen.

 

3.5 Gwasanaethau Lleol

 

Bydd PDC yn hyrwyddo, yn cynnig ac yn hwyluso defnydd o’r Gymraeg yng nghyd-destun ein gwasanaethau lleol.  Bydd yn canfod proffil ieithyddol unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau lleol ac yn ceisio cwrdd â’u dewis.

 

3.6 Hysbysebion Cyflogaeth

 

Bydd hysbysebion cyflogaeth a gyhoeddir gan PDC yn ddwyieithog ac eithrio:

 

§       y bydd hysbysebion a gyhoeddir mewn cylchgronau a phapurau newyddion Cymraeg yn y Gymraeg yn unig.

§         y bydd hysbysebion a gyhoeddir mewn cylchgronau a phapurau newyddion Saesneg ar gyfer swyddi lle mae’r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol yn y Gymraeg yn unig ond rhoddir nodyn byr o eglurhad yn y Saesneg.

§         y bydd hysbysebion a gyhoeddir yn y cyfryngau Saesneg ac a anelir at gynulleidfa yn y Deyrnas Unedig  neu Ewrop yn arferol yn y Saesneg yn unig.

 

3.7 Ymddiriedolwyr PDC (Pwyllgor Rheoli)

 

           Anela PDC at gael cymysgedd cynrychioladol o siaradwyr Cymraeg a Saesneg ar y Pwyllgor.  Gwneir trefniadau cyfieithu i alluogi aelodau o’r Pwyllgor i ddefnyddio eu dewis iaith mewn cyfarfodydd ac mewn deunyddiau ysgrifenedig, os oes angen.

 

4.  Cyswllt Uniongyrchol

 

Darperir gwasanaethau uniongyrchol gan PDC yn dewis iaith y defnyddiwr, gwasanaeth y parheir i’w chadarnhau trwy gysylltiadau staff a gwirfoddolwyr a’i chofnodi ar ein data-bas cyswllt.  Darperir gwybodaeth a chyngor yn uniongyrchol i ddefnyddwyr y gwasanaethau yn ddwyieithog yn ôl y galw.

 

4.1 Gohebiaeth

Anoga PDC ohebiaeth yn y Gymraeg.  Atebir llythyrau a dderbynnir yn y Gymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg.  Bydd y cyfnod ymateb yr un ag i lythyrau a dderbynnir yn y Saesneg.  Lle mae’r Gymraeg yn ddewis iaith y derbynnydd, ysgrifenna PDC yn y Gymraeg.

 

Lle na fydd amser yn caniatáu cyfieithu cyn anfon ymateb ar fater brys (oherwydd prinder staff )  cyfieithir y llythyr gennym cyn gynted ag y bo modd a’i anfon wedyn. Byddwn yn esbonio hyn i’r ysgrifennwr. Fan amlaf, byddwn yn medru ymateb yn y naill iaith neu’r llall yn syth. Bydd llythyrau apêl a llythyrau safonol PDC i staff, aelodau a sefydliadau eraill yn ddwyieithog.

 

4.2 Galwadau Ffôn

Ar hyn o bryd, (Ionawr 2007) nid oes gan PDC swyddfa ac felly defnyddir ffôn personol un o’r ymddiriedolwyr yn ei gartref.  Pan sefydlir swyddfa, bydd PDC yn ateb galwadau ffôn â chyfarchiad dwyieithog.  Os yw’r galwr yn dymuno cynnal y sgwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ceisiwn ei gysylltu â siaradwr Cymraeg.  Onid oes siaradwr Cymraeg ar gael, bydd PDC yn rhoi dewis i’r siaradwr :- (i) Naill ai bydd siaradwr Cymraeg yn ffonio yn ôl (ii) parhau â’r sgwrs yn Saesneg, neu (iii) anfon yr ymholiad mewn ysgrifen yn y Gymraeg.  Bydd neges ddwyieithog ar beiriant ateb PDC ac atebir unrhyw neges Gymraeg a adewir arno trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

4.3 E-bost

 

            Atebir neges e-bost Cymraeg a dderbynnir gan PDC trwy gyfrwng y Gymraeg.  Lle gwyddys ei bod gwell gan dderbynnydd neges e-bost gyfathrebu yn y Gymraeg, yna bydd PDC yn cyfathrebu yn y Gymraeg.  Bydd y cyfnod ymateb ar gyfer e-bost a dderbynnir yn y Gymraeg yr un ag ar gyfer neges a dderbynnir yn Saesneg. Cedwir enwau mudiadau/ unigolion sydd am dderbyn e-byst yn y Gymraeg yn barhaol ar fas data, fel y medrwn roi'r ddarpariaeth hon iddynt bob tro.

 

4.4 Gwefan

 

Gall aelodau’r cyhoedd gyrchu’r wybodaeth drwy wefan PDC yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Mae’r wefan yn rhoi arwydd clir o ddewis iaith ac mae PDC yn cydnabod  mai’r ffordd orau o lywio iaith i’w dewis iaith o’r dudalen gartref.  Caiff tudalennau Cymraeg a Saesneg y wefan eu diwygio a’u diweddaru ar yr un pryd gan gymryd i ystyriaeth y gallai fod yna wahaniaeth yn y cynnwys oherwydd yr anawsterau gwahanol a wynebir yn y Gymraeg a’r Saesneg gan unigolion dyslecsig.

 

Bydd pob adroddiad, dogfen a ffurflen newydd sy’n seiliedig ar y we ar gael yn ddwyieithog gyda phob fersiwn ar gael mor rhwydd i’w lawr lwytho â’r llall.  Mae’r holl ddeunyddiau a darpariaeth yn Gymraeg a Saesneg yn gyson yn nhermau diweddaru, cywirdeb, amlygrwydd, rhwyddineb darllen ac ansawdd.  Rhoddir cyfarwyddyd ysgrifenedig i’r holl staff, ymgynghorwyr, dylunwyr a chyhoeddwyr ar gyfer cynllunio deunydd dwyieithog.

 

5. Gweinyddu Mewnol

 

5.1 Staff Proffesiynol a Gwirfoddolwyr

 

Er mwyn i’r Cynllun Iaith Gymraeg fod yn llwyddiannus, rhaid i PDC gael nifer digonol o staff proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gallu siarad Cymraeg.  Lle bo’n briodol, ystyrir y gallu i siarad Cymraeg yn un o nifer o fanylion personol wrth lenwi swyddi, yn unol â Pholisi Cyfle Cyfartal PDC.

 

Caiff pob swydd newydd eu hystyried yng ngoleuni’r Cynllun hwn.  Bydd PDC yn dynodi swyddi lle mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol, dymunol neu bernir nad oes ei angen fel sgil (cyf 3.6).  Caiff disgrifiadau swyddi wedyn eu ffurfio yn ôl hynny.  Ar achlysur, lle mae recriwtio ar gyfer staff sgilgar/profiadol wedi profi’n anodd gall fod angen penodi person nad yw’n siarad Cymraeg i swydd lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.  Bydd PDC yn cynnig y swyddi hyn gydag amod cyflogaeth i ddysgu Cymraeg a chyrraedd lefel benodol o ruglder o fewn amserlen a gytunwyd.  Bydd PDC yn cefnogi a chynorthwyo’r aelod o staff i ateb y cyflwr hwn a bydd yn sicrhau nad yw’r aelod o staff dan anfantais mewn ffyrdd eraill fel canlyniad i ateb y cyflwr hwn.  Caiff y rhaglen ddysgu ei strwythuro a’i monitro’n rheolaidd i sicrhau fod y sawl a gyflogir a’r cyflogydd yn anrhydeddu’r ymrwymiad hyn.  Bydd hyn yn rhan o sicrhau fod gan PDC nifer ddigonol o siaradwyr Cymraeg mewn swyddi  i gyflawni’r gwasanaethau a amlinellir yn y Cynllun.

 

5.2 Datblygiadau Newydd

 

Gwneir y Cynllun Iaith Gymraeg yn rhan annatod o gynllunio PDC er mwyn sicrhau bod unrhyw brosiect, datblygiad neu fenter newydd yn cydnabod ac yn cynnwys goblygiadau’r Cynllun.

 

5.3 Gwasanaethau a gontractir

 

Bydd PDC yn arolygu unrhyw wasanaethau a gontractir i asiantaethau a chwmnïau allanol  i sicrhau gweithredu adrannau perthnasol o’r Cynllun Iaith Gymraeg. 

 

6. Gweithredu’r Cynllun

 

6.1 Arfarnu

 

Gwneir arfarniad o broffil ieithyddol staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr y gwasanaeth gan PDC yn flynyddol er mwyn sicrhau gweithredu’r Cynllun Iaith Gymraeg a chwrdd â gofynion y mudiad.

 

Bydd yr arfarniad yn adnabod swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol a’r safon angenrheidiol.

 

6.2 Arolygu’r Cynllun

 

Bydd PDC yn arolygu ac yn arfarnu perfformiad y mudiad o ran cwrdd ag amcanion y Cynllun hwn o fewn amserlen osodedig ..  Llunnir nifer o feini prawf a fydd yn cynnwys agweddau pwysicaf y Cynllun a’u defnyddio yn y broses arolygu.  Byddant yn cynnwys nifer y siaradwyr Cymraeg yn PDC, cyfartaledd y dogfennau a gynhyrchir ac y gofynnir amdanynt yn ddwyieithog, ac unrhyw ddatblygiadau/prif ddigwyddiadau a gynhyrchir yn ddwyieithog.  Caiff canlyniadau’r broses arolygu eu cynnwys yn Adroddiad Blynyddol PDC a gyflwynir i Fwrdd yr ymddiriedolwyr ac y caiff  Bwrdd yr Iaith Gymraeg gopi ohono.

 

Bydd Prosiect Dyslecsia Cymru yn gwerthuso’r Cynllun Iaith ymhen tair blynedd o ddyddiad ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

 

6.3 Hyfforddiant

 

Caiff Cynllun Iaith Gymraeg PDC ei gynnwys yn hyfforddiant y staff a’i fonitro yn unigol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol PDC.  Bydd PDC yn annog staff i wella/dysgu Cymraeg a bydd yn cynorthwyo a chefnogi staff sydd â’r lefel angenrheidiol o ymrwymiad i ddechrau hyfforddiant iaith.

 

7. Cwynion

 

7.1       Dylid cyfeirio cwynion ynglŷn â’r Cynllun Iaith Gymraeg a’i ddefnydd gan PDC at:

 

Michael Davies

Llysteifi

Llechryd

Aberteifi

SA43 2NX

 

Rhif ffôn: (01239) 682849   07990 813921

e-bost:  llechryd1@btconnect.com