Croeso i Wefan Prosiect Dyslecsia Cymru   
Newyddion diweddaraf:

o Gynulliad Cenedlaethol Cymru:

Aelodau Cynulliad sydd yn astudio dulliau o drin dyslecsia am gael clywed gan blant a’u rhieni

Mae grwp o Aelodau’r Cynulliad a sefydlwyd i ystyried agweddau ar drin dyslecsia yng Nghymru yn gofyn am farn plant sydd â’r cyflwr a’u rhieni.

Sefydlwyd y Grwp Rapporteur trawsbleidiol ar Ddyslecsia (Alun Cairns, Jeff Cuthbert, Janet Ryder a Kirsty Williams) gan Bwyllgor Menter a Dysgu  Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r grwp wedi bod ar gyfres o ymweliadau ymchwiliol ac wedi gwrando ar dystiolaeth gan academyddion, sefydliadau a chyrff blaenllaw.

Mae’r aelodau wedi astudio’r dulliau traddodiadol o ymdrin â dyslecsia gan  edrych hefyd ar ffyrdd mwy arloesol megis dull Dore – testun rhaglen ddogfen ar y teledu am y seren rygbi Scott Quinnell – a dull Raviv method, yn ogystal â phecynnau TG megis Fast ForWord. Maent wedi gwrando ar dystiolaeth gan sefydliadau sy’n cynnwys British Dyslexia Association Cymru, Prosiect Dyslecsia Cymru a Dyslexia Action Cymru ac wedi edrych ar syniadau arloesol eraill fel achredu ysgolion sy’n ystyriol o ddyslecsia a rhagnodi sbectol arlliwedig a lensiau lliw.

Bellach maent am siarad â rhieni a phlant sydd wedi profi’r anawsterau sy’n codi wrth orfod byw gyda dyslecsia, yn enwedig:

- eu profiadau yn sgil gwahanol ffyrdd o drin y cyflwr

-  y gefnogaeth a ddarperir gan yr ysgolion

- y gwasanaeth a geir gan seicolegwyr addysgol

- y ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer plant sydd â dyslecsia.

Dywedodd Alun Cairns AC: “Mae bod yn rhan o’r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia wedi bod yn brofiad hynod ddiddorol ac ‘rydym wedi dysgu cryn dipyn am y gwahanol ddulliau arloesol o fynd i’r afael â’r cyflwr. Mae hi’n bwysig, fodd bynnag, ein bod ni’n gwrando nid yn unig ar yr ymarferwyr a’r sefydliadau ond ar yr arbenigwyr go iawn – sef y plant a’u rhieni – ynglyn â’u profiadau. ‘Rwy’n annog unrhyw un sydd â phlentyn dyslecsig yn y teulu i gysylltu â’r grwp. Bydd hyn o gymorth inni wrth lunio’n hargymhellion terfynol ynglyn â thrin dyslecsia.”

Dylai unrhyw un sydd am gyfleu’i syniadau i’r grwp ysgrifennu at Kathryn Jenkins, Gwasanaeth y Pwyllgorau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd CF99 1NA neu anfon e-bost at: Kathryn.jenkins2@wales.gsi.gov.uk

_______________________________________________________



Bwriad y wefan hon yw rhoi help llaw i chi a'r unigolyn dyslecsig. Ar y tudalennau hyn byddwn yn cyflwyno gwybodaeth o bedwar-ban byd a fydd yn eich helpu chi, yr athro/athrawes a/neu riant disgybl dyslecsig, sy'n ceisio rhoi cymorth i'r disgybl dyslecsig.

___________________________________________________________

WEDI EI LAWNSIO
AR GAEL YN NAWR I YSGOLION LEDLED CYMRU
YN DDI-DAL i ysgolion yng Nghymru-- --Meddalwedd newydd.

CD EdGair  (fersiwn Cymraeg o EdWord)

Rhaglen prosesu geiriau syml sydd ar gyfer pobl sydd a dyslecsia neu nam ar eu golwg sy'n cynnwys:

Rhyngwyneb Cymraeg

Llais Cymraeg i ddarllen testun

Datblygwyd gan Canolfan Bedwyr gyda nawdd Prosiect Dyslecsia Cymru a chymorth ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg .

http://www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr

I dderbyn copi, danfonwch e bost at Prosiect Dyslecsia Cymru.

llechryd1@btconnect.com

Benthyciad o'r C D ar gyfer rhieni yn bosibl. Danfonwch e bost atom. llechryd1@btconnect.com

_________________________________________________________

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae ein Cynllun wedi ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar Mai 10ed 2007.

I'w ddarllen, cliciwch ar y botwm priodol ar ochr chwith y dudalen hon.