Prosiect Dyslecsia Cymru

Beth yw dyslecsia?

Anhawster i ddysgu darllen, ysgrifennu a sillafu yw dyslecsia, sy'n cael ei achosi gan gyfuniad o ddiffygion prosesu ffonolegol, gweledol a chlywedol. Mae'n bosibl hefyd y bydd gan yr unigolyn dislecsigfod yna anawsterau wrth ailafael mewn geiriau ac a pha mor gyflym chyflymder y gall eu prosesu. Mae amlygrwydd dyslecsia mewn unigolyn yn dibynnu nid yn unig ar wahaniaethau gwybyddol unigol ond hefyd ar yr iaith a ddefnyddir (Ian Smythe, 2000).

Mae pob unigolyn dyslecsig yn wahanol a dylai fe neu hi gael ei drin/ei thrin fel unigolyn. Mae nifer ohonynt yn meddu ar ddoniau y mae galw amdanynt gan gyflogwyr, megis sgiliau gweld-gofodol, gallu i feddwl yn gyfannol a gweld pethau yn eu cyfanrwydd, a meddwl ochrol da. Gall yr un ffactorau sy'n achosi anawsterau llythrennedd fod yn gyfrifol am amlygu nodweddion positif. Er enghraifft, mae'n bosibl bod y rheini sy'n ei chael hi'n anodd i ddatrys problem yn yr un ffordd ag y byddai eraill, yn defnyddio dyfeisgarwch sy'n arwain at fwy o wreiddioldeb a chreadigrwydd, dawn a welir yn aml yn yr unigolyn dyslecsig. Awgryma rhai pobl fod y nodweddion hyn yn dod i'r amlwg dim ond o ganlyniad i'r anhawster a geir wrth ddysgu sgiliau llythrennedd.