Prosiect Dyslecsia Cymru

Helpu'r unigolyn dyslecsig â'i fathemateg
gan Steve Chinn

Ceisiwch ddefnyddio'r ffeithiau sy'n hysbys i chi i ddatrys y ffeithiau nad ydynt yn hysbys i chi. Er enghraifft, lluosogi 2 ddwywaith er mwyn darganfod ffeithiau tabl pedwar, neu haneru tabl deg er mwyn darganfod ffeithiau tabl pump.

Gwnewch yr un peth wrth ymdrin â ffeithiau adio a thynnu. Defnyddiwch yr hyn sy'n hysbys i chi ac adeiladwch ar sail y ffeithiau hynny. Er enghraifft, i adio 9 ar rif arall, adiwch 10 ac yna tynnu 1. Neu i dynnu 9, tynnwch yn gyntaf 10, ac yna adiwch 1. Cyfrifwch 6 drwy adio 5 ac 1, a 7 drwy adio 5 a 2.

Magwch hyder. Byddwch yn barod i dderbyn amcangyfrif y gallwch wella arno neu wirio gyda chymorth cyfrifiannell. Mentrwch hi!

Defnyddiwch rifau rhwydd er mwyn helpu chi eich hunan i ddeall sut mae dull arbennig yn gweithio. Er enghraifft, os ydych chi'n gwybod bod hanner â chwarter yn hafal i dri chwarter, yna mae yn eich meddiant y dull sylfaenol o adio ffracsiynau.

Mae'n bwysig sylweddoli bod llawer o fathemateg yn gydberthynol a dylid defnyddio hyn er eich mantais. Er enghraifft, mae cysylltiad agos rhwng adio a lluosogi ac felly gallwch gyfrifo 7 x 8 drwy adio saith casgliad o 8 eitem, neu gellwch gyfrifo 5 x 8 ac yna 2 x 8 drwy luosogi ac wedyn adio'r ddau ateb (40 â 16), sy'n hafal i 7 x 8 (56).

Adeiladwch ar sail yr hyn rydych chi'n ei wybod a'i ddeall. Fel arfer, byddwch yn gwybod ac yn deall mwy nag yr ydych chi'n meddwl. Yna, defnyddiwch hyn wrth fynd i'r afael â'r hyn nad ydych chi'n ei ddeall. Adeiladwch ar sylfeini cadarn.

Mae cysyniadau mathemateg yn cychwyn yn gynnar ac yn datblygu. Mae algebra, er enghraifft, yn defnyddio pob un o reolau rhifedd ac yn aml mae'n haws i'w ddefnyddio na rhifau. Er enghraifft, gall adio hydau tair ochr triongl olygu adio 37, 58 ac 86. Yn achos algebra, a phe bai'r ochrau yn a, b ac c, byddai ffurf ysgrifenedig y cyfanswm yn a + b + c, sydd yn haws i'w deall na 37 + 58 + 86 = 181.

Chwiliwch am ddatblygiad syniad mewn mathemateg. Er enghraifft, mae 3 + 5 = 8 yn datblygu i fod yn 30 + 50 = 80, 300 + 500 = 800, 0.3 + 0.5 = 0.8, 3a + 5a = 8a.

Edrychwch ar y broblem yn ei chrynswth cyn dechrau. Ceisiwch weld y darlun cyfan a darganfod yr elfennau cyfarwydd. Er enghraifft, wrth adio colofn o rifau, chwiliwch am y cyfuniadau sydd yn dod i gyfanswm o ddeg a defnyddiwch y rhain i hwyluso'r dasg. Gellid ad-drefnu 6 + 5 + 8 + 9 + 4 + 2 + 3 + 2 fel a ganlyn: (6 + 4) + (5 + 2 + 3) + (8 + 2) + 9 = 10 + 10 + 10 + 9 = 39.

Ceisiwch aralleirio problemau yn ymwneud â geiriau neu bortreadu'r wybodaeth ar ffurf diagram.