gan Elizabeth Henderson, prifathrawes ysgol gynradd
a darlithwraig
Isod ceir cyfres o awgrymiadau ar gyfer athrawon
ysgolion cynradd ar reoli'r
ystafell ddosbarth a sut i ddarparu gwell awyrgylch addysgu i'r
disgybl
dyslecsig
1. Yn ddieithriad dylai disgyblion dyslecsig gael
eu rhoi i eistedd mewn man
lle maent yn wynebu blaen y dosbarth, safle y byddwch yn cerdded
heibio iddo
neu'n gallu ei weld yn rhwydd, fel y gallwch gadw llygad ar eu cynnydd
a'u
hanawsterau, gan gynnwys bod dan bwysau. Mae dilyn gwaith ar y bwrdd
du yn
anodd iawn i blant dyslecsig, felly peidiwch a gwneud mwy nag sydd
raid, neu
sicrhewch ddarpariaeth arall.
2. Pwysleisio'r pethau maent yn eu dysgu'r wythnos
hon neu'r rheini a
roddwyd sylw iddynt yrwythnos diwethaf drwy ysgrifennu rhywbeth
ar gefn eu
llaw neu ar garden atgoffa wedi'i gosod yn sownd wrth ei bwrdd (bob
tro y
byddwch yn mynd heibio iddynt, cofiwch eu hatgoffa am y pwynt hwnnw
a'i
adolygu).
3. Defnyddio rcordydd tap bach ('Walkman') i recordio
negeseuon byr a
chyfarwyddiadau y gallant eu chwarae yn ol pan fo angen.
4. Hel at ei gilydd cynifer o oedolion, parod eu
cymwynas, ag y gallwch; eu
dysgu gyda'i gilydd mewn grwp bach ynglyn a sut i ddysgu eich plant
dyslecsig (gan ddefnyddio mygydau dros y llygaid, hambyrddau tywod,
ysgrifen
redeg, cardiau atgoffa enghreifftiol ayyb).
5. Neilltuo cyfnod byr 'arbennig', mor aml ag sy'n
bosibl, i weld y plentyn
dyslecsig ar ei ben ei hunan (fel rheol gellir trefnu pum munud
cyn ysgol,
wedi ysgol, cyn neu ar ol amser cinio; bydd y mamau, fel rheol,
yn barod i
gydweithio a'r math yma o strategaeth ac, yn aml, fe gant eu calonogi
gan y
fath drefniant dyddiol os ydynt yn teimlo'n rhydd i ymuno yn awr
ac yn y
man).
6. Gwnewch yn siwr eich bod yn cynnal cyfarfodydd
rheolaidd (o leiaf bob
tymor) gyda'r rhieni. Dylid eu cynnwys gymaint ag sy'n bosibl oherwydd
y
gall eu cefnogaeth fod yn bwysig iawn. A chofiwch, gall y rhieni
fod yn
ddyslecsig hefyd.
7. Cadw llyfr cofnod sy'n mynd adref bob nos ac yn
cael ei lofnodi gan y
rhieni.
8. Darparu siartiau, cardiau atgoffa a chardiau fflach
ar gyfer yr eitemau
maent yn debygol o'u hanghofio, megis gwaith cartref, dillad chwaraeon
a
geirfa. Defnyddio lliwiau i helpu cof y plant.
9. Rhoi hwb i'r plentyn drwy osod gwaith ar lefel
anhawster addas fel y gall
ei orffen o fewn yr amser penodol.
10 . Ni waeth pa mor araf yw cynnydd y plentyn, mae'n
rhaid iddo/iddi allu
gweld ar ddiwedd pob dydd fod rhywbeth mae'n ei wybod neu'n gallu
ei wneud
nawr nad oedd yn bosibl yr wythnos diwethaf.
|