|
Isod ceir cyfres o awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu
Cynllun Addysg Unigol a ddylai ganiatau i addysg y plentyn gyd-fynd
a'i ddull o ddysgu.
1. Adnabod yr hyn y mae'r plentyn yn cael yn
anodd i'w ddysgu. Er enghraifft, ai dysgu ail-iaith, mathemateg,
neu eirfa newydd mewn gwyddoniaeth ayyb sy'n anodd iddo iddi?
2. Darganfod y rheswm pam y mae ganddo/ganddi'r
cyfryw broblemau. Er enghraifft, ai cof byrhoedlog o'r hyn a glywir,
neu brosesu'n ffonolegol yw'r broblem?
3. Ceisio asesu y mha ffordd y mae ef/hi'n
dysgu. Er enghraifft, ydy dull gweledol yn gweithio'n well?
4. Ceisio adnabod sut y gallwch newid eich
ffordd o addysgu er mwyn ei helpu i ddysgu'n haws.
5. Gofyn i chi eich hunan o hyd pam y dewisoch
y dull dan sylw, ac a oed dull amgenach.
6. Adnabod yr hanfodion allweddol wrth ystyried
- Pwy fydd yn gyfrifol am ei gyflwyno? Pa mor aml? Ble?
7. Gosod targedau ystyrlon. Sicrhau bod y gweithgareddau'n
addas yn ol oedran a gallu
8. Adolygu'n barhaol, ac adnabod y rhesymau
pam na chyrhaeddir targedau neu, os y'u cyrhaeddir, a ydy'r plentyn
yn cael ei ymestyn ddigon.
9. Gofyn a oes dewisiadau cymwys eraill, neu
agweddau eraill, megis rheoli straen neu ymddygiad sydd heb dderbyn
sylw eto.
10. Cofio taw dim ond y dull o gynnwys yr ysgol
gyfan fydd yn rhoi cyfle i'r disgybl wneud ei orau glas. Mae angen
sicrhau bod yr athrawon i gyd yn cael gwybod am yr anawsterau a
sut y gallant helpu orau yn y sefyllfa.
|