Prosiect Dyslecsia Cymru

Helpu'r unigolyn dyslecsig gartref

Nodwch yn ofalus y meysydd penodol sy'n achosi anhawster i'r plentyn a threfnwch gyfres o gemau a gweithgareddau a fydd, efallai, o gymorth i'w cryfhau. Ond, cofiwch fod y plentyn yn aml yn gweld yr aelwyd fel yr unig le y gall ddianc iddo i osgoi gwaith llythrennedd ac mae'n bwysig, felly, sicrhau bod y gweithgareddau yn hwyl.

1. Hwiangerddi - rhowch gynnig ar eu hadrodd, a dod o hyd i gemau sy'n cyd-fynd a nhw. Ychwanegwch at y gem drwy chwilio am eiriau eraill sy'n odli.


2. Barddoniaeth - darllenwch farddoniaeth i blant, yn enwedig cerddi llawn doniolwch a dwli, ac ewch ati gyda nhw i gyfansoddi rhai eich hunain.


3. Gemau corfforol - sgiliau corfforol megis taflu, dal, cicio pel, sgipio, neidio a balansio. Er enghraifft, mae'r gem 'Mae Seimon yn dweud' yn defnyddio cyfarwyddiadau syml iawn ar y dechrau, e.e. 'Mae Seimon yn dweud, clapiwch eich dwylo' ac yn raddol gallwch gyflwyno rhai anoddach, e.e. 'Mae Seimon yn dweud, rhowch eich llaw chwith y tu ol i'ch pen-glin dde.'


4. Ymwybyddiaeth ginesthetig - teimlo siap llythrennau gan ddefnyddio llythrennau pren a phlastig, tywod gwlyb neu sych, neu ffurfio llythrennau o blastisin neu glai.


5. Amrywiadau o'r gem 'Rwy'n gweld gyda fy llygad fach i', e.e. 'Rwy'n gweld gyda fy llygad fach i rhywbeth sy'n dechrau gyda'r sw?n (b)', '¡Kgyda'r un sw?n a bwrdd', '¡Kgyda'r llythyren B.', '¡Ksy'n odli gyda blodyn.', '¡Ksy'n diweddu gyda'r swn (b).'


6. Cyfres glywedol - llunio rhestri sy'n tyfu yn fwy ac yn fwy. Er enghraifft, 'Aeth fy mam-gu i'r farchnad ac fe brynodd hi afal, pwys o datws, pot o fel¡K' gan ychwanegu rhagor bob tro. Rhowch gynnig ar gategoriau gwahanol, neu lythrennau gwahanol neu eitemau ar hap.


7. Dominos - does dim angen llawer o waith paratoi ac mae'n ffordd rwydd i helpu gyda rhifau, yn ogystal a gweld dilyniannau. Maent hefyd ar gael mewn ffurfiau amrywiol eraill, dominos ac arnynt luniau a phatrymau fel y gall y plentyn roi tebyg at ei debyg


8. Gwrthrychau ar hambwrdd -rhowch nifer o wrthrychau ar hambwrdd i'r plentyn syllu arnynt. Wedyn: (a) ar ol ychydig eiliadau gorchuddiwch yr hambwrdd a gofyn i'r plentyn enwi pob un o'r gwrthrychau a welodd, neu (b) Gofynnwch i'r plentyn gau ei lygaid. Tynnwch un neu ddau beth oddi ar yr hambwrdd. Gofynnwch i'r plentyn agor ei lygaid a dweud beth mae e'n ei feddwl sydd wedi diflannu.