Prosiect Dyslecsia Cymru

Helpu'r unigolyn dyslecsig

Beth sydd eisiau ei wneud a beth na ddylid ei wneud

Beth sydd eisiau ei wneud

  • Byddwch yn frwdfrydig dros yr hyn rydych yn ei wneud
  • Gwnewch ymdrech i fod yn ddiddorol ac i amrywio eich adnoddau
  • Byddwch yn hyblyg ac yn fodlon i newid eich cynlluniau
  • Cadwch bob gweithgaredd yn fyr a sicrhau amrywiaeth ym mhob sesiwn
  • Cadwch rai gweithgareddau ychwanegol wrth gefn
  • Cofiwch drafod yr hyn rydych wedi'i wneud yn y sesiynau blaenorol
  • Ailadroddwch yr hyn mae'r plant wedi'i ddysgu, o bosibl mewn ffordd wahanol
  • Neilltuwch amser ar gyfer cynllunio strategaethau
  • Cofiwch nad yw rhai unigolion yn hoffi darllen yn uchel
  • Rhowch ganmoliaeth ac anogaeth
  • Meddyliwch am geisio gosod targedau cyraeddadwy ar gyfer y myfyriwr am un neu fwy o sesiynau
  • Gadewch i'r myfyriwr deimlo ei fod wrth y llyw a'ch bod chi'n gwerthfawrogi ei syniadau
  • Ceisiwch gywiro a beirniadu mewn modd positif
  • Wrth orffen pob gwers, ceisiwch sicrhau bod y myfyriwr yn teimlo ei fod wedi llwyddo
  • Byddwch yn glust dda
  • Cymerwch hoe - mae pawb yn haeddu un
  • Ymlaciwch a mwynhewch

Beth na ddylid ei wneud

  • Bod yn rhy uchelgeisiol
  • Ceisio rhuthro
  • Anwybyddu diddordebau, hobiau ac arferion hamdden y myfyrwyr
  • Cymharu eich myfyrwyr ag eraill
  • Synnu at yr hyn y mae'ch myfyriwr yn methu a gwneud
  • Torri ar draws yn rhy gyflym wrth gywiro gwaith darllen
  • Dangos eich diffyg amynedd os bydd y myfyriwr yn cael rhywbeth yn anghywir
  • Cynnwys gormod o weithgareddau mewn un sesiwn
  • Cyfeirio at y camgymeriadau i gyd - dim ond y rhai pwysig sydd angen tynnu sylw atynt
  • Poeni os bydd pethau'n mynd o chwith. Cydiwch mewn gweithgaredd arall gan ddychwelyd i'r gwreiddiol nes ymlaen