|
Isod ceir rhestr wirio
sy'n gwahanu dau fath o anawsterau; y rhai sy'n gysylltiedig
â llythrennedd ar y naill law ac am ymddygiad ar y llall.
Dyma rai o'r dangosyddion mwyaf cyffredin a ddefnyddir i adnabod
yr unigolyn dyslecsig. Ond, cofiwch, nad yw cael anhawster
â rhai ohonynt yn golygu bod plentyn yn ddyslecsig
- Anawsterau'n gysylltiedig â
llythrennedd
- yn cael darllen a sillafu'n arbennig
o anodd
- yn gosod llythrennau neu rifau o chwith
- yn cael anhawster wrth ddysgu a chofio
tablau a'r wyddor
- yn hepgor llythrennau o eiriau neu'n
eu gosod yn y drefn anghywir
- yn cymryd mwy o amser na'r cyfartaledd
wrth ysgrifennu
- yn drysu wrth ddefnyddio geiriau hir
megis cychwynnol, athronyddol
- yn cael hwiangerddi'n anodd
Dangosyddion ymddygiad
- yn ei chael hi'n anodd i wahaniaethu rhwng dde a chwith,
trefn dyddiau'r wythnos, misoedd y flwyddyn, ayyb
- synnwyr cyfeiriad gwan
- diffyg hunanhyder a hunanddelwedd druenus
- yn cael ei gyhuddo o beidio â gwrando neu fethu
â chymryd sylw
- anhawster â sgiliau motor e.e. dal, cicio neu daflu
pêl; hopian a/neu sgipio
- anhawster wrth guro rhythm syml
- Yn eich synnu chi oherwydd ym mhob ffordd arall y mae
ef/hi'n ddeallus ac yn effro
|