|
gan Ian Smythe (Tachwedd 2001)
Beth yw Dyslecsia?
Anhawster i ddysgu darllen, ysgrifennu a sillafu yw dyslecsia,
sy'n cael ei achosi gan gyfuniad o ddiffygion prosesu ffonolegol,
gweledol a chlywedol. Mae'n bosibl hefyd y bydd gan yr unigolyn
dyslecsig anhawster wrth ailafael mewn geiriau ac â
pha mor gyflym y gall eu prosesu. Mae amlygrwydd dyslecsia
mewn unigolyn yn dibynnu nid yn unig ar wahaniaethau gwybyddol
unigol ond hefyd ar yr iaith a ddefnyddir (Ian Smythe, 2000).
Gall y diffiniad uchod o ddyslecsia fod yn fan cychwyn ar
gyfer ymchwilio anawsterau sylfaenol yr unigolyn dyslecsig,
a sut y gallwn asesu'r anawsterau hynny. Mae e hefyd yn darparu
sail ar gyfer creu'r cynllun addysg unigol a fydd yn ein galluogi
i gyflwyno dysgu addas, a galluogi'r plentyn i gael gafael
ar y sgiliau llythrennedd angenrheidiol.
Mae llawer o sgiliau sy'n bwysig i'w cael er mwyn datblygu'r
medrau digonol sy'n angenrheidiol mewn cymdeithas fwyfwy llythrennog.
Mae'r sgiliau hyn, a gymerir yn ganiataol gan nifer ohonom,
yn cynnwys datblygu iaith lafar, deall cynrychiolaeth symbolaidd,
sgiliau dilyniant, medrau ysgrifennu llythrennau, datblygu
cronfeydd ffonolegol (seiniau iaith) a systemau orgraffyddol
(y gallu i ysgrifennu) a semantig (cofio ystyr), ynghyd â
rhannu ac integreiddio'r gwahanol systemau. Dim ond drwy ddeall
datblygiad ac anawsterau'r rhain a meysydd eraill, sydd yn
chwarae rhan yn y broses o gael gafael ar sgil llythrennedd,
y bydd modd i ni fod o wir gymorth i'r plentyn dyslecsig.
Beth ddylwn ni ei brofi?
Wrth gydweithio â'r gymuned leol, athrawon a'r awdurdod
addysg sylweddolwyd nad oedd "diagnosis o ddyslecsia"
diffiniol, er ei fod yn ymddangos yn ddefnyddiol, yn darparu
gwybodaeth ychwanegol sydd o gymorth wrth benderfynu ar gynllun
addysg addas i'r plant hyn. Mae'n ymddangos taw'r ffordd sy'n
cynnig mwy i'r plentyn yw creu dull o weithredu er mwyn asesu'r
proffil gwybyddol (e.e. cof clywedol byr dymor a sgiliau odli)
sy'n helpu i ddeall yr arddull dysgu dewisol, yn ogystal â
lefel cyrhaeddiad cyfredol sgiliau llythrennedd y plant. Bydd
hyn yn darparu gwybodaeth werthfawr a all, o bosibl, egluro
eu hanhawster wrth gael gafael ar sgiliau llythrennedd. Dim
ond ar ôl i ni gael yr wybodaeth hon y byddai modd i
ni lunio'r cynllun addysg unigol addas hwnnw.
Beth sydd gan broffil gwybyddol i'w gynnig sy ddim gan label
dyslecsia? Ar y cyfan derbynnir po agosaf yw'r berthynas rhwng
y dull o addysgu a'r modd y mae'r unigolyn yn dysgu, mwyaf
i gyd a ddysgir o fewn amser penodedig. Rydym yn gywbod os
y'i gwneir yn berthnasol yn ddiwylliannol bydd y plentyn yn
dysgu mwy. Ac os ydy'r plentyn yn ddysgwr 'gweledol' hwylusir
yr addysgu os defnyddir mwy o ddeunydd atodol gweledol. Ond,
os na fedrwn ddyfalu sut mae'r plentyn yn dysgu, drwy archwiliad
manwl o bob un o'i alluoedd a'i anawsterau, gan gynnwys ei
sgiliau a gwendidau gwybyddol, ni chaiff lawer o'r hyn a gyflwynir
iddo/iddi ei ddysgu, neu fe gaiff ei ddysgu'n aneffeithiol.
Bydd asesiad addas yn ein galluogi nid yn unig i wybod sut
mae'r plentyn yn dysgu ond, hefyd, yr hyn a ddylai ei ddysgu
a sut y dylai gael eu addysgu.
Dyslecsia ac arddulliau dysgu - cyfatebiaeth
Nid canlyniad un anhawster yn unig yw dyslecsia, ac mae ei
gymharu â golwg byr yn ein helpu i'w ddeall. Os dywed
arbenigwr wrthych fod plentyn yn fyr ei olwg rydych yn deall
y goblygiadau - mae angen sbectol arno. Ond, mae angen sbectol
o'r cryfder cywir i fod yn effeithiol. Dim ond drwy fesur
llygaid y plentyn, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau,
y gwneir y presgripsiwn cywir. Os oes gwahaniaeth mawr rhwng
yr anghenion a'r hyn a ddarperir bydd y sbectol yn ddiwerth,
neu hyd yn oed yn niweidiol i'r llygaid.
Y gyfatebiaeth yn achos dyslecsia yw nad yw'r label 'dyslecsia'
yn dweud llawer wrthyn - dim mwy na dweud bod angen sbectol
ar rywun. Beth sydd eisiau yw asesiad llawn o'r anawsterau.
Ond, lle mae'n bosibl pennu'r sbectol yn eithaf rhwydd (fel
rheol, dim ond cyfeirio at gryfder ac astigmatedd sydd ei
angen) mae'r anawsterau gwybyddol a all achosi problemau darllen
ac ysgrifennu yn niferus, oherwydd bod angen nifer o fedrau
er mwyn darllen ac ysgrifennu. Os ydy'r presgripsiwn ar gyfer
'dyslecsia' wedi'i amgyffred a'i lunio'n wael, mae'n bosibl
y bydd y plentyn yn derbyn cymorth sydd nid yn unig yn ddiwerth
ond hyd yn oed yn niweidiol, os nad yn uniongyrchol, o leiaf
yn emosiynol wrth iddo/iddi barhau i fethu'n academaidd.
Beth am restr wirio?
Ni fydd gan y rhan fwyaf o athrawon fodd i gael gafael ar
weithdrefnau asesu. Ond, mae rhestri gwirio ar gael a all
gynorthwyo'r gwaith o adnabod y plant hynny sydd ag anawsterau
dysgu penodol. Er nad yw'r rhain yn rhoi gwybodaeth am yr
anawsterau sylfaenol penodol, gallant helpu i gadarnhau pryderon
yr athrawon a'r rhieni.
Isod ceir rhestr wirio sy'n gwahanu dau fath o anawsterau;
y rhai sy'n gysylltiedig â llythrennedd ar y naill law
ac am ymddygiad ar y llall. Dyma rai o'r dangosyddion mwyaf
cyffredin a ddefnyddir i adnabod yr unigolyn dyslecsig. Ond,
cofiwch, nad yw cael anhawster â rhai ohonynt yn golygu
bod plentyn yn ddyslecsig.
Anawsterau'n gysylltiedig â llythrennedd
" yn cael darllen a sillafu'n arbennig o anodd
" yn gosod llythrennau neu rifau o chwith
" yn cael anhawster wrth ddysgu a chofio tablau a'r wyddor
" yn hepgor llythrennau o eiriau neu'n eu gosod yn y
drefn anghywir
" yn cymryd mwy o amser na'r cyfartaledd wrth ysgrifennu
" yn drysu wrth ddefnyddio geiriau hir megis cychwynnol,
athronyddol
" yn cael hwiangerddi'n anodd
Dangosyddion ymddygiad
" yn ei chael hi'n anodd i wahaniaethu rhwng dde a chwith,
trefn dyddiau'r wythnos, misoedd y flwyddyn, ayyb
" synnwyr cyfeiriad gwan
" diffyg hunanhyder a hunanddelwedd druenus
" yn cael ei gyhuddo o beidio â gwrando neu fethu
â chymryd sylw
" anhawster â sgiliau motor e.e. dal, cicio neu
daflu pêl; hopian a/neu sgipio
" anhawster wrth guro rhythm syml
" Yn eich synnu chi oherwydd ym mhob ffordd arall y mae
ef/hi'n ddeallus ac yn effro
Serch hynny, mae'n bwysig cofio nad yw'r ffaith bod ganddo/ganddi
nifer o'r anawsterau hyn o angenrheidrwydd yn golygu bod plentyn
yn ddyslecsig. Gall nifer o bethau ddylanwadu ar ddatblygiad
llythrennedd plentyn, gan gynnwys yr amgylchedd dysgu, a dim
ond asesiad llawn o'r anawsterau gan berson wedi'i hyfforddi'n
addas, sy'n gallu cadarnhau'r rheswm am fethiant plentyn i
gael gafael ar sgiliau llythrennedd.
Fframwaith ar gyfer asesiad
Mae'r fframwaith a awgrymir i asesu anawsterau penodol plentyn
ag anawsterau llythrennedd yn seiliedig ar Brawf Proffil Gwybyddol
Rhyngwladol (PPGRh neu ICPT) a ddatblygwyd gan yr awdur. Mae'n
defnyddio'r fframwaith a ganlyn:
Sgiliau rhannu ac adeiladu ffonolegol
System clywedol
System gweledol
Geiriadur semanteg
Cyflymdra prosesu
Gellir ystyried pob un o'r elfennau hyn yn 'fodwl' ar wahân
yn yr ymennydd, a gweithredu perthynol pob un ohonynt sy'n
penderfynu gallu'r plentyn i ddysgu sgiliau llythrennedd.
Er hynny, mae'n bwysig cofio bod gan bob un o'r elfennau
hyn nifer o gydrannau y mae angen eu gwerthuso yn eu tro.
Er enghraifft, mae profion system clywedol yn cynnwys cof
byrdymor clywedol a gwahaniaethu sain.
Beth am ddeallusrwydd?
Mae ymchwil yn dangos yn glir taw perthynas wan sydd rhwng
y gallu i gael gafael ar sgiliau llythrennedd a deallusrwydd
cyffredinol yr unigolyn, ac felly nid yw unrhyw fesur o ddeallusrwydd
yn dangos ei botensial i ddysgu sgiliau llythrennedd. Wrth
gwrs, nid yw hyn yn golygu nad yw deallusrwydd yn bwysig oherwydd
bydd gallu'r plentyn i ddeall cyfarwyddiadau, er enghraifft,
yn penderfynu'r ffordd maent yn cael eu haddysgu. Ond ni ddylid
defnyddio mesur o 'ddeallusrwydd' i benderfynu lefel y ddarpariaeth
a roddir.
Asesiad ar waith
Does dim rhestr benodol o brofion y dylid eu defnyddio, ond
mae'r rhestr isod yn rhoi syniad o'r profion y gellid disgwyl
i'w cynnwys yn yr asesiad ffurfiol o'r unigolyn dyslecsig.
Sgiliau sylfaenol: yr wyddor a rhif, gan gynnwys trawsosod,
gwybodaeth am lyfrau, dyddiau'r wythnos
Tasgau gweledol - copïo siapau, cofio siapau'n weledol,
cof gweledol dilyniannol
Sillafu geiriau a geiriau gwneud
Cof clywedol: rhychwant rhifau (ymlaen ac yn ôl) a thasg
dapio
Darllen geiriau a geiriau gwneud
Sgiliau rhannu ffonolegol: tasgau cyflythrennu ac odli
Enwi'n gyflym - llun, rhif a llythyren
Gwahaniaethu synau
Gallu rhesymu: matricsau Raven
Darllen yn rhydd
Ysgrifennu'n rhydd
Deall wrth wrando
Deall gwaith ddarllen
Mesur o eirfa lafar
Sgiliau motor
Holiadur cyflawn, gan gynnwys hanes meddygol a addysgiadol
Casgliadau
Er y gall yr unigolyn dyslecsig brofi anawsterau wrth ddysgu
darllen, ysgrifennu a sillafu, mae'n bosibl ei ddysgu sut
i gael hyd i strategaethau a dulliau dysgu amgen er mwyn dod
dros y rhan fwyaf o'r anawsterau hyn a rhai eraill. Ond, gall
rhai problemau, megis sillafu gwael, barhau gydol oes.
Mae pob unigolyn dyslecsig yn wahanol a dylai ef neu hi gael
ei drin/ei thrin fel unigolyn. Mae nifer ohonynt yn meddu
ar ddoniau y mae galw amdanynt gan gyflogwyr, megis sgiliau
gweledol-gofodol da, y gallu i feddwl yn gyfannol a gweld
pethau yn eu cyfanrwydd, a meddwl ochrol da. Gall yr un ffactorau
sy'n achosi anawsterau llythrennedd fod yn gyfrifol am amlygu
nodweddion positif. Er enghraifft, mae'n bosibl bod y rheini
sy'n ei chael hi'n anodd i ddatrys problem yn yr un ffordd
ag y byddai eraill, yn defnyddio dyfeisgarwch sy'n arwain
at fwy o wreiddioldeb a chreadigrwydd, dawn a welir yn aml
yn yr unigolyn dyslecsig. Awgryma rhai pobl fod y nodweddion
hyn yn dod i'r amlwg dim ond o ganlyniad i'r anhawster a geir
wrth ddysgu sgiliau llythrennedd.
Rôl yr asesydd yw darganfod y rheswm pam y mae'r unigolyn
yn ei chael hi'n anodd i ddysgu sgiliau llythrennedd. Rôl
yr athro/athrawes yw cael hyd i'r ffordd sy'n canitáu
i'r unigolyn ddysgu.
"Os nad yw ein dulliau yn dysgu plant, rydym yn defnyddio
eu dulliau nhw o ddysgu"
|