![]() |
|

Dyslecsia yw anhawster wrth ddysgu darllen, ysgrifennu a sillafu a all gael ei achosi gan gyfuniad o ddiffygion seinyddol, prosesau clywedol a gweledol. Gall anawsterau adalw geiriau a chyflymder prosesu fod yn bresennol hefyd. Bydd arwyddion dyslecsia mewn unrhyw unigolyn yn dibynnu, nid yn unig ar wahaniaethau gwybyddol unigol, ond hefyd ar yr iaith a ddefnyddir. (Ian Smythe, 2000)
Mae pob unigolyn dyslecsig yn wahanol, a dylai gael ei drin fel unigolyn. Mae gan lawer ohonynt dalentau y mae cyflogwyr eu hangen, fel sgiliau gweld-gofodol da, gallu i feddwl yn gyfannol a gweld y darlun ehangach, a meddwl dargyfeiriol da. Gall yr un ffactorau sy’n achosi anawsterau llythrennedd fod yn gyfrifol am amlygu nodweddion cadarnhaol. Er enghraifft, gall y rheiny sy’n cael anhawster datrys problem yn yr un modd ag eraill ddefnyddio adnoddau sy’n arwain at fwy o wreiddioldeb a chreadigrwydd, talent sy’n aml i’w weld yn yr unigolyn dyslecsig. Mae rhai pobl yn awgrymu mai dim ond oherwydd anhawster wrth ddysgu sgiliau llythrennedd y darganfyddir y priodoleddau hyn.
__________________________________________________________________________________________________________