Asesu'r unigolyn dyslecsig Beth yw Dyslecsia?Anhawsteri ddysgu darllen, ysgrifennu a sillafu yw dyslecsia, sy'n cael ei achosi gan gyfuniad o ddiffygion prosesu ffonolegol, gweledol a chlywedol. Mae'n bosibl hefyd y bydd gan yr unigolyn dyslecsig anhawster wrth ail afael mewn geiriau ac ? pha mor gyflym y gall eu prosesu. Mae amlygrwydd dyslecsia mewn unigolyn yn dibynnu nid yn unig ar wahaniaethau gwybyddol unigol ond hefyd ar yr iaith a ddefnyddir(Ian Smythe, 2000). Gall y diffiniad uchod o ddyslecsia fod ynfan cychwyn ar gyfer ymchwilio anawsterau sylfaenol yr unigolyn dyslecsig, a sut y gallwn asesu'r anawsterau hynny. Mae e hefyd yn darparu sail ar gyfer creu'r cynllun addysg unigol a fydd yn ein galluogi i gyflwyno dysgu addas, a galluogi'r plentyn i gael gafael ar y sgiliau llythrennedd angenrheidiol. Mae llawer o sgiliau sy'n bwysig i'w cael er mwyn datblygu'r medrau digonol sy'n angenrheidiol mewn cymdeithas fwyfwy llythrennog. Mae'r sgiliau hyn, a gymerir yn ganiataol gan nifer ohonom, yn cynnwys datblygu iaith lafar, deall cynrychiolaeth symbolaidd, sgiliau dilyniant, medrau ysgrifennu llythrennau, datblygu cronfeydd ffonolegol (seiniau iaith) a systemau orgraffyddol (y gallu i ysgrifennu) a semantig (cofio ystyr), ynghyd ? rhannu ac integreiddio'r gwahanol systemau. Dim ond drwy ddeall datblygiad ac anawsterau'r rhain a meysydd eraill, sydd yn chwarae rhanyn y broses o gael gafael ar sgil llythrennedd, y bydd modd i ni fod owir gymorth i'r plentyn dyslecsig. Beth ddylwn ni ei brofi? Wrth gydweithio ?'r gymuned leol, athrawon a'r awdurdod addysg sylweddolwyd nad oedd "diagnosis o ddyslecsia" diffiniol, er ei fod ynymddangos yn ddefnyddiol, yn darparu gwybodaeth ychwanegol sydd o gymorth wrth benderfynu ar gynllun addysg addas i'r plant hyn. Mae'n ymddangos taw'r ffordd sy'n cynnig mwy i'r plentyn yw creu dull o weithredu er mwyn asesu'r proffil gwybyddol (e.e. cof clywedol byr dymor a sgiliau odli) sy'n helpu i ddeall yr arddull dysgu dewisol, yn ogystal ? lefel cyrhaeddiad cyfredol sgiliau llythrennedd y plant. Byddhyn yn darparu gwybodaeth werthfawr a all, o bosibl, egluro eu hanhawster wrth gael gafael ar sgiliau llythrennedd. Dim ond ar ?l i ni gael yr wybodaeth hon y byddai modd i ni lunio'r cynllun addysg unigol addas hwnnw. Beth sydd gan broffil gwybyddol i'w gynnig sy ddim gan label dyslecsia? Ar y cyfan derbynnir po agosaf yw'r berthynas rhwng y dull o addysgu a'r modd y mae'r unigolyn yn dysgu, mwyaf i gyda ddysgir o fewn amser penodedig. Rydym yn gwybod os y'i gwneir yn berthnasol yn ddiwylliannol bydd y plentyn yn dysgu mwy. Ac os ydy'r plentyn yn ddysgwr 'gweledol' hwylusir yr addysgu os defnyddir mwy oddeunydd atodol gweledol. Ond, os na fedrwn ddyfalu sut mae'r plentyn yn dysgu, drwy archwiliad manwl o bob un o'i alluoedd a'i anawsterau,gan gynnwys ei sgiliau a gwendidau gwybyddol, ni chaiff lawer o'r hyn a gyflwynir iddo/iddi ei ddysgu, neu fe gaiff ei ddysgu'n aneffeithiol.Bydd asesiad addas yn ein galluogi nid yn unig i wybod sut mae'r plentyn yn dysgu ond, hefyd, yr hyn a ddylai ei ddysgu a sut y dylai gael eu addysgu. Dyslecsia ac arddulliau dysgu - cyfatebiaeth Nid canlyniad un anhawster yn unig yw dyslecsia, ac mae ei gymharu ? golwg byr yn ein helpu i'w ddeall. Os dywed arbenigwr wrthych fod plentyn ynfyr ei olwg rydych yn deall y goblygiadau - mae angen sbectol arno.Ond, mae angen sbectol o'r cryfder cywir i fod yn effeithiol. Dim ond drwy fesur llygaid y plentyn, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, y gwneir y presgripsiwn cywir. Os oes gwahaniaeth mawr rhwng yr anghenion a'r hyn a ddarperir bydd y sbectol yn ddiwerth, neu hyd yn oed yn niweidiol i'r llygaid. Y gyfatebiaeth yn achos dyslecsia yw nad yw'r label 'dyslecsia' yn dweud llawer wrthyn - dim mwy na dweud bod angen sbectol ar rywun. Beth sydd eisiau yw asesiad llawn o'ranawsterau. Ond, lle mae'n bosibl pennu'r sbectol yn eithaf rhwydd (fel rheol, dim ond cyfeirio at gryfder ac astigmatedd sydd ei angen) mae'r anawsterau gwybyddol a all achosi problemau darllen ac ysgrifennu yn niferus, oherwydd bod angen nifer o fedrau er mwyn darllen ac ysgrifennu. Os ydy'r presgripsiwn ar gyfer 'dyslecsia' wedi'i amgyffred a'i lunio'n wael, mae'n bosibl y bydd y plentyn yn derbyn cymorth sydd nid yn unig yn ddiwerth ond hyd yn oed yn niweidiol, os nad yn uniongyrchol, o leiaf yn emosiynol wrth iddo/iddi barhau i fethu'n academaidd. Beth am restr wirio? Ni fydd gan y rhan fwyaf o athrawon fodd i gael gafael ar weithdrefnau asesu. Ond, mae rhestri gwirio ar gael a all gynorthwyo'r gwaith o adnabod y plant hynny sydd ag anawsterau dysgu penodol. Er nad yw'r rhain yn rhoi gwybodaeth am yr anawsterau sylfaenol penodol, gallant helpu i gadarnhau pryderon yrathrawon a'r rhieni. Isod ceir rhestr wirio sy'n gwahanu dau fath o anawsterau; y rhai sy'n gysylltiedig ? llythrennedd ar y naill law ac am ymddygiad ar y llall. Dyma rai o'r dangosyddion mwyaf cyffredin a ddefnyddir i adnabod yr unigolyn dyslecsig. Ond, cofiwch,nad yw cael anhawster ? rhai ohonynt yn golygu bod plentyn ynddyslecsig. Anawsterau'n gysylltiedig ? llythrennedd " yn cael darllen a sillafu'n arbennig o anodd " yn gosod llythrennau neu rifau o chwith " yn cael anhawster wrth ddysgu a chofio tablau a'r wyddor " yn hepgor llythrennau o eiriau neu'n eu gosod yn y drefn anghywir " yn cymryd mwy o amser na'r cyfartaledd wrth ysgrifennu " yn drysu wrth ddefnyddio geiriau hir megis cychwynnol, athronyddol " yn cael hwiangerddi'n anodd Dangosyddion ymddygiad " yn ei chael hi'n anodd i wahaniaethu rhwng dde a chwith, trefn dyddiau'r wythnos, misoedd y flwyddyn, ayyb " synnwyr cyfeiriad gwan " diffyg hunan hyder a hunan ddelwedd druenus " yn cael ei gyhuddo o beidio ? gwrando neu fethu ? chymryd sylw " anhawster ? sgiliau motor e.e. dal, cicio neu daflu p?l; hopian a/neu sgipio " anhawster wrth guro rhythm syml " Yn eich synnu chi oherwydd ym mhob ffordd arall y mae ef/hi'n ddeallus ac yn effro Serch hynny, mae'n bwysig cofio nad yw'r ffaith bod ganddo/ganddi nifer o'r anawsterau hyn o angenrheidrwydd yn golygu bod plentyn yn ddyslecsig.Gall nifer o bethau ddylanwadu ar ddatblygiad llythrennedd plentyn, gan gynnwys yr amgylchedd dysgu, a dim ond asesiad llawn o'r anawsterau gan berson wedi'i hyfforddi'n addas, sy'n gallu cadarnhau'r rheswm am fethiant plentyn i gael gafael ar sgiliau llythrennedd. Fframwaith ar gyfer asesiad Mae'r fframwaith a awgrymir i asesu anawsterau penodol plentyn ag anawsterau llythrennedd yn seiliedig ar Brawf Proffil Gwybyddol Rhyngwladol (PPGRh neu ICPT) a ddatblygwyd gan yr awdur. Mae'n defnyddio'r fframwaith a ganlyn: Sgiliau rhannu ac adeiladu ffonolegol System clywedol System gweledol Geiriadur semanteg Cyflymdra prosesu Gellir ystyried pob un o'r elfennau hyn yn 'fodwl' ar wah?n yn yr ymennydd, a gweithredu perthynol pob un ohonynt sy'n penderfynu gallu'r plentyn i ddysgu sgiliau llythrennedd. Er hynny, mae'n bwysig cofio bod gan bob un o'r elfennau hyn nifer o gydrannau y mae angen eu gwerthuso yn eu tro. Er enghraifft, mae profion system clywedol yn cynnwys cof byr dymor clywedol a gwahaniaethu sain. Beth am ddeallusrwydd? Mae ymchwil yn dangos yn glir taw perthynas wan sydd rhwng y gallu i gael gafael ar sgiliau llythrennedd a deallusrwydd cyffredinol yrunigolyn, ac felly nid yw unrhyw fesur o ddeallusrwydd yn dangos eibotensial i ddysgu sgiliau llythrennedd. Wrth gwrs, nid yw hyn yngolygu nad yw deallusrwydd yn bwysig oherwydd bydd gallu'r plentyn iddeall cyfarwyddiadau, er enghraifft, yn penderfynu'r ffordd maent yncael eu haddysgu. Ond ni ddylid defnyddio mesur o 'ddeallusrwydd' i benderfynu lefel y ddarpariaeth a roddir. Asesiad ar waith Does dim rhestr benodol o brofion y dylid eu defnyddio, ond mae'r rhestr isod yn rhoi syniad o'r profion y gellid disgwyl i'w cynnwys yn yr asesiad ffurfiol o'r unigolyn dyslecsig. Sgiliau sylfaenol: yr wyddor a rhif, gan gynnwys trawsosod, gwybodaeth am lyfrau, dyddiau'r wythnos Tasgau gweledol - cop?o siapau, cofio siapau'n weledol, cof gweledol dilyniannol Sillafu geiriau a geiriau gwneud Cof clywedol: rhychwant rhifau (ymlaen ac yn ?l) a thasg dapio Darllen geiriau a geiriau gwneud Sgiliau rhannu ffonolegol: tasgau cyflythrennu ac odli Enwi'n gyflym - llun, rhif a llythyren Gwahaniaethu synau Gallu rhesymu: matricsau Raven Darllen yn rhydd Ysgrifennu'n rhydd Deall wrth wrando Deall gwaith ddarllen Mesur o eirfa lafar Sgiliau motor Holiadur cyflawn, gan gynnwys hanes meddygol a addysgiadol Casgliadau Er y gall yr unigolyn dyslecsig brofi anawsterau wrth ddysgu darllen,ysgrifennu a sillafu, mae'n bosibl ei ddysgu sut i gael hyd i strategaethau a dulliau dysgu amgen er mwyn dod dros y rhan fwyaf o'r anawsterau hyn a rhai eraill. Ond, gall rhai problemau, megis sillafu gwael, barhau gydol oes. Mae pob unigolyn dyslecsig yn wahanol a dylai ef neu hi gael ei drin/ei thrin fel unigolyn. Mae nifer ohonynt yn meddu ar ddoniau y mae galw amdanynt gan gyflogwyr, megis sgiliaugweledol-gofodol da, y gallu i feddwl yn gyfannol a gweld pethau yn eu cyfanrwydd, a meddwl ochrol da. Gall yr un ffactorau sy'n achosi anawsterau llythrennedd fod yn gyfrifol am amlygu nodweddion positif.Er enghraifft, mae'n bosibl bod y rheini sy'n ei chael hi'n anodd i ddatrys problem yn yr un ffordd ag y byddai eraill, yn defnyddio dyfeisgarwch sy'n arwain at fwy o wreiddioldeb a chreadigrwydd, dawn awelir yn aml yn yr unigolyn dyslecsig. Awgryma rhai pobl fod y nodweddion hyn yn dod i'r amlwg dim ond o ganlyniad i'r anhawster a geir wrth ddysgu sgiliau llythrennedd. R?l yr asesydd yw darganfod y rheswm pam y mae'r unigolyn yn ei chael hi'n anodd i ddysgu sgiliau llythrennedd. R?l yr athro/athrawes yw cael hyd i'r ffordd sy'n canit?u i'r unigolyn ddysgu. "Os nad yw ein dulliau yn dysgu plant, rydym yn defnyddio eu dulliau nhw o ddysgu
|