Pecyn adnoddau hynod ddeniadol i gynorthwyo a gwella sgiliau llythrennedd plant 5-11 oed gyda dyslecsia, a gyflwynir trwy gyfrwng y Gymraeg ac sy’n seiliedig ar egwyddorion addysgu ieithyddol cydnabyddedig.
Mae’r pecyn adnoddau cyfan yn mynd i’r afael â phedair lefel gallu gyffredin a throsfwaol ac mae’n cynnwys 32 o lyfrau clawr papur wedi’i seilio ar thema’r mor ac sy’n seiliedig o amgylch arfordir Cymru. Mae gan y CD ROM ategol gemau i helpu’r plant adnabod patrymau, rhannu geiriau a chydnabod geiriau. Mae nodiadau arweiniad i athrawon wedi’u cynnwys.
Yn raddol, mae’r llyfrau’n mynd yn fwy anodd trwy ddefnyddio llythrennau/geiriau a oedd yn ffocws lefelau cynharach ac adeiladu arnynt i gyflwyno geirfa newydd sy’n cynnwys cyfuniadau a ffurfiadau mwyfwy anodd o lythrennau. Mae cynnwys unigryw i’r llyfrau (y mae rhai ohonynt wedi’u canolbwyntio i apelio at fechgyn ifanc yn benodol) a ysgrifennwyd gan arbenigwyr o’r Uned Ddyslecsia ym Mhrifysgol Cymru Bangor.
Mae'r gyfres wedi ei datblygu gan Gwmni Tinopolis Interactive, a gellir archebu'r gyfres wrthynt neu drwy eich siop lyfrau leol.